Proverbs 22

1Mae enw da yn well na chyfoeth mawr,
a charedigrwydd yn well nag arian ac aur.
2Mae un peth sy'n wir am y cyfoethog a'r tlawd:
yr Arglwydd wnaeth greu y ddau ohonyn nhw.
3Mae'r person call yn gweld problem ac yn ei hosgoi;
ond y gwirion yn bwrw yn ei flaen ac yn gorfod talu'r pris.
4Mae gostyngeiddrwydd a parch at yr Arglwydd
yn arwain i gyfoeth, anrhydedd a bywyd.
5Mae drain a maglau ar lwybr pobl sy'n twyllo;
ond mae'r person sy'n ofalus yn cadw draw oddi wrthyn nhw.
6Dysga blentyn y ffordd orau i fyw;
a fydd e ddim yn troi cefn arni pan fydd e'n hŷn.
7Fel mae'r cyfoethog yn rheoli'r tlawd,
mae'r un sydd mewn dyled yn gaethwas i'r benthyciwr.
8Bydd y rhai sy'n hau drygioni yn medi helyntion,
a bydd eu gwialen greulon yn cael ei thorri.
9Bydd person hael yn cael ei fendithio
am rannu ei fwyd gyda'r tlawd.
10Taflwch allan yr un sy'n creu helynt, a bydd y cweryla'n peidio,
bydd y ffraeo a'r sarhau yn stopio.
11Pwy bynnag sy'n ddidwyll a'i eiriau'n garedig,
bydd yn ffrindiau gyda'r brenin.
12Mae'r Arglwydd yn gofalu am yr un sy'n gwybod y gwir;
ond mae'n tanseilio beth mae'r twyllwr yn ei ddweud.
13Mae'r diogyn yn dweud, “Mae yna lew yna!
Mae'n beryg bywyd i fynd allan i'r stryd.”
14Mae fflyrtian y wraig anfoesol fel pwll dwfn;
mae'r rhai sy'n digio'r Arglwydd yn syrthio iddo.
15Pan mae ffolineb wedi cael gafael ar feddwl person ifanc,
bydd gwialen disgyblaeth yn cael gwared ag e.
16Dydy gwneud arian drwy gam-drin pobl dlawd,
neu roi anrhegion i'r cyfoethog, yn ddim byd ond colled!

Y Tri Deg Cyngor Doeth

17Gwranda'n astud ar beth mae'r doethion wedi ei ddweud;
a meddylia am y pethau dw i'n eu dysgu i ti.
18Mae'n beth da i'r rhain wreiddio'n ddwfn ynot ti
ac iddyn nhw fod ar flaen dy dafod bob amser.
19Dw i am eu rhannu nhw hefo ti heddiw – ie, ti –
er mwyn i ti drystio'r Arglwydd.
20Dw i wedi eu hysgrifennu nhw i lawr –
“Y Tri Deg Cyngor Doeth”,
21i ti ddysgu'r gwir, a beth sy'n iawn,
a mynd â'r atebion iawn i'r rhai wnaeth dy anfon di.
22Paid dwyn oddi ar y tlawd, achos maen nhw'n dlawd;
na chymryd mantais o bobl mewn angen yn y llys.
23Bydd yr Arglwydd yn sefyll hefo nhw,
ac yn gorthrymu'r rhai sy'n eu gorthrymu nhw.
24Paid gwneud ffrindiau gyda rhywun piwis,
na chadw cwmni rhywun sydd â thymer wyllt,
25rhag i ti hefyd droi felly,
a methu dianc.
26Paid bod yn rhy barod i gytuno
i dalu dyledion rhywun arall; a
27Os na fyddi di'n gallu talu
byddi'n colli popeth, hyd yn oed dy wely!
28Paid symud yr hen ffiniau
gafodd eu gosod gan dy hynafiaid.
29Pan weli di rywun sy'n fedrus yn ei waith –
bydd hwnnw'n gwasanaethu brenhinoedd,
nid pobl does neb wedi clywed amdanyn nhw.
Copyright information for CYM